Llywelyn ap Gruffudd

21. Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf)

Arweinwyr (564 o bleidleisiau)

1230 – 1282

Gwir Dywysog Olaf Cymru, a fynnodd gydnabyddiaeth i genedl y Cymry cyn cael ei ladd gan y Saeson.

Am bron i ugain mlynedd rhwng 1258 a 1277, roedd hi"n ymddangos bod Cymru ar fin dod yn wlad annibynnol, wedi ei huno gan gyfreithiau, arferion ac iaith. Dyma oedd gorchest Llywelyn ap Gruffudd, yr unig Dywysog Cymreig a gafodd ei gydnabod gan Frenin Lloegr.

Roedd y statws hwnnw, a ddyfarnwyd iddo gan Gytundeb Trefaldwyn ym 1267, yn nodi diwedd cyfnod rhyfeddol o ehangu pan roedd Llywelyn wedi ymestyn ei arglwyddiaeth o frenhiniaeth hynafol Gwynedd yn y gogledd, i gynnwys y rhan fwyaf o"r Gymru fodern.

Ond tra bod Llywelyn yn rheoli Cymru fel unrhyw deyrn arall yn y Canol Oesoedd, roedd cyfyngiadau ar ei rym. Roedd yn rhaid iddo dalu gwrogaeth i Harri"r III, brenin Lloegr o dan gytundeb oedd wedi cwtogi"n sylweddol ar y cynnydd yr oedd ei daid, Llywelyn Fawr wedi ei sicrhau.

Tra bod Harri wedi goddef atgyfodiad cenedligrwydd y Cymry o dan y Llywelyn iau, roedd ei fab, Edward I, yn fwy calon-galed. Efallai, bod Llywelyn wedi bod yn annoeth wrth greu arferiad o godi gwrychyn Edward yn rhy aml.

Gwrthododd fynd i seremoni coroni Edward, cyhoeddodd ei fwriad i briodi merch y rebel o Sais, Simone de Montford, a dechreuodd adeiladu castell urddasol ar y ffin yn Sir Drefaldwyn.

Nid oedd Edward yn ddyn fyddai"n fodlon cael ei herio fel hyn heb ymateb. Ym mis Tachwedd 1276, rhoddodd bris ar ben Llywelyn.

Y flwyddyn wedyn, arweiniodd Edward fyddin anferth ar draws Cymru a cheisiodd newynu trigolion perfeddwlad Llywelyn nes iddynt ildio.

Gwyddai Llywelyn y byddai"n cael ei drechu. Ildiodd ac yn erbyn ei ewyllys, talodd wrogaeth i Edward.

Ym 1282, cododd y Cymry unwaith eto, gan adennill yn gyflym reolaeth dros sawl cadarnle allweddol, ac ail-dyngu llw o ffyddlondeb i Llywelyn. Ger Culfor Menai, cafwyd buddugoliaeth wych dros luoedd oedd yn deyrngar i Edward.

Arweiniodd Llywelyn ei fyddin i"r ardal o gwmpas Llanfair ym Muallt. Yno, ar 11 Rhagfyr 1282, cafodd ei ladd gan filwr o Sir Amwythig na wyddai mai"r Tywysog ydoedd.

A dyna ddiwedd ar obeithion y Cymry o fod yn genedl annibynnol.

Eich sylwadau chi

Ef oedd unig Frenin neu Dywysog Cymru i reoli Cymru gyfan ynghyd â rheoli rhannau o Loegr.

Ef ddaeth agosaf o blith holl Dywysogion Cymru i uno Cymru gyfan fel un deyrnas. Safodd yn ddewr yn erbyn byddinoedd grymus Edward I ac yn y pendraw cafodd ei ladd yn ymladd yn erbyn byddin oresgynnol.

Llwyddodd i ysbrydoli'r Cymry hynafol i uno, drwy deimlad o frawdoliaeth a chwaeroliaeth, mewn nod gyffredin o amddiffyn ein ffiniau yn erbyn y Saeson.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru